#

Y Pwyllgor Deisebau | 12 Mai 2020
 Petitions Committee | 12 May 2020
 
 
 ,Penderfyniadau diweddar ynglŷn â graddau UG 2020 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-958

Teitl y ddeiseb: Penderfyniadau diweddar ynglŷn â graddau UG 2020

Geiriad y ddeiseb: Gwnaed penderfyniad yn ddiweddar gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ynghylch cymwysterau Lefel UG 2020. Yn ôl datganiad a gyhoeddwyd ganddi:

Yn haf 2021, bydd gan y dysgwyr UG presennol ddau ddewis ar gyfer eu dyfarniad Safon Uwch. Gallant ddewis a ydynt am:

- sefyll yr unedau U2 yn unig, gyda'r radd Safon Uwch yn cael ei dyfarnu ar eu perfformiad yn yr unedau U2 yn unig;
 - neu sefyll yr unedau UG ac U2. Byddant yn derbyn y radd orau o'r naill lwybr neu'r llall.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn cymryd i ystyriaeth fyfyrwyr sydd wedi gweithio'n galed iawn i gael rhagolygon am raddau da trwy gydol Blwyddyn 12, ac a oedd felly'n barod ar gyfer yr arholiadau; roedd y cyntaf o’r arholiadau hynny i ddechrau ymhen dim ond pedair wythnos o'r adeg y gwnaed y penderfyniad hwn.

Byddai Blwyddyn 12 fel arfer yn cyfrannu at 40 y cant o'r radd Safon Uwch gyffredinol.

Os yw myfyriwr yn dewis sefyll Unedau U2 yn unig, yn unol â'r opsiwn cyntaf uchod, bydd myfyrwyr wedi gweithio'n ddiflino yn ystod Blwyddyn 12 am 0 y cant o'u gradd Safon Uwch, sydd erioed wedi digwydd o'r blaen. Mae hyn yn cynyddu’r pwysau aruthrol ar fyfyrwyr sy’n parhau i Flwyddyn 13 ac yn gwrth-ddweud gobaith y Gweinidog o gael “system deg” sy’n cynorthwyo “lles” myfyrwyr. At hynny, ni roddir cyfrif am y pwysau ychwanegol hwn yn y dyfodol pan fydd carfan myfyrwyr 2021 yn cystadlu am swyddi gyda myfyrwyr a gredydwyd gan y system lawer tecach a oedd ar waith o'r blaen.

Mae'r ail lwybr o gymryd unedau UG ac U2 yn 2021 nid yn unig yn golygu nad yw Blwyddyn 12 eto'n cyfrannu dim at y radd Safon Uwch yn gyffredinol, ond nad yw ychwaith yn lleihau’r pwysau aruthrol sydd eisoes ar Flwyddyn 13. Yn lle hynny, mae'n cymryd holl bwysau’r ddwy flynedd ac yn eu cyfuno ar gyfer arholiadau yng nghyfres arholiadau haf 2021. Nid yw hyn yn deg, ac ni ddylem gael ein drysu gan y datganiadau a ryddhawyd i gredu ei fod yn deg.

Mae addysg yn agwedd hanfodol ar fywyd myfyriwr, yn enwedig y rhai sydd wedi penderfynu parhau â Safon Uwch, y mae angen dyfalbarhad a gwaith caled ar bob un ohonynt, yn y gobaith o gyflawni'r graddau sydd eu hangen ar gyfer y cynlluniau at y dyfodol.

Mae hwn eisoes yn gyfnod o straen mawr ar fyfyrwyr. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw penderfyniad brysiog sydd yn y pen draw yn niweidiol i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd y ddau lwybr a gynigir yn anfanteisiol i fyfyrwyr.

Gofynnwn i'r penderfyniad hwn gael ei addasu i gymryd pob myfyriwr i ystyriaeth.

 

Y cefndir

Ar 18 Mawrth 2020, cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y byddai cyfres arholiadau haf 2020 yn cael ei chanslo yn sgîl y pandemig Covid-19. Ar gyfer 2020, bydd pob dysgwr UG yn cael gradd Safon UG amcangyfrifedig ac ni chynhelir unrhyw arholiadau UG  nes haf 2021. Bydd yr amcangyfrif yn seiliedig ar ystod y dystiolaeth, gan gynnwys graddau asesiadau gan athrawon, ac ni fydd yn cyfrannu at y canlyniadau Safon Uwch yn 2021. 

Yng Nghymru, mae cymwysterau Safon Uwch yn cynnwys unedau Uwch Gyfrannol (UG) ac U2. Mae'r UG yn gymhwyster ar ei ben ei hun ac mae hefyd yn cyfrannu 40 y cant tuag at y cymhwyster Safon Uwch llawn. Gellir sefyll arholiadau UG ar ddiwedd y cwrs UG neu ochr yn ochr ag U2.

Bydd y radd wedi’i chyfrifo a roddir i ddysgwyr UG yn yr haf eleni yn eu galluogi i symud ymlaen i lwybrau eraill, fel hyfforddiant arall, neu gyflogaeth, neu i ysgol neu goleg arall. Os bydd dysgwr yn mynd ymlaen i wneud y Safon Uwch lawn yn haf 2021, ni ellir defnyddio'r radd wedi’i chyfrifo o'r haf hwn oherwydd gradd bydd honno, ac nid marc. Fel arfer mae’r marciau o bob uned UG yn cael eu cyfuno wrth gyfrifo'r radd Safon Uwch derfynol. 

Yn haf 2021, bydd gan y dysgwyr UG ddau ddewis ar gyfer eu dyfarniad Safon Uwch. Gallant naill ai ddewis sefyll yr unedau U2 yn unig, gyda'r radd Safon Uwch yn cael ei dyfarnu ar eu perfformiad yn yr unedau hynny yn unig, neu gallant ddewis sefyll yr unedau UG ac U2. Os byddant yn dewis sefyll yr unedau UG ochr yn ochr â’r unedau U2, byddant yn cael y radd orau o'r naill lwybr neu'r llall – naill ai’r radd a ddyfarnwyd ar eu perfformiad yn yr unedau U2 yn unig, neu’r radd a ddyfarnwyd drwy gyfuno’r unedau UG ac U2. 

Darparodd y Gweinidog wybodaeth am sut y byddai arholiadau’r haf eleni’n cael eu graddio i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 28 Ebrill 2020 (paragraffau 90-99).

Cymwysterau Cymru

Ar 6 Ebrill 2020, rhoddodd y Gweinidog Addysg Gyfarwyddyd i Gymwysterau Cymru, sef rheoleiddiwr cymwysterau islaw lefel gradd yng Nghymru, i roi sylw i bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch canslo arholiadau a phenderfynu ar raddau wedi hynny. 

Mae'r Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru sicrhau bod dull teg a chadarn yn cael ei fabwysiadu i roi graddau i garfan dysgwyr haf 2020. Mae hyn yn cynnwys pennu'r dull y mae'n rhaid i ganolfannau ei ddilyn wrth ddod i gasgliadau ynghylch cyrhaeddiad eu dysgwyr, safoni dyfarniadau canolfannau a sicrhau bod llwybr atebolrwydd ar gael i'r dysgwyr nad ydynt yn credu bod y broses wedi'i dilyn yn gywir wrth gyhoeddi eu graddau.

Ar 28 Ebrill 2020, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ymgynghoriad ar y Trefniadau ar gyfer cyfres arholiadau haf 2020. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer cyfres o nodau i danategu'r model safoni ystadegol ar gyfer cyhoeddi graddau i ddysgwyr sy'n sefyll TGAU, UG, Safon Uwch a chymwysterau Her Sgiliau Cymru yng nghyfres arholiadau haf 2020. Mae hefyd yn ymgynghori ynghylch proses apelio. Mae ymgynghoriad i bobl ifanc ac mae Cymwysterau Cymru yn dweud ei fod yn awyddus i glywed gan ddysgwyr. Mae'r ymgynghoriad yn cau ddydd Mercher 13 Mai 2020.

Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban

Mae arholiadau’r haf wedi'u canslo yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban (sydd â system arholi wahanol).

Yn Lloegr mae safon UG yn wahanol i'r hyn a wneir yng Nghymru ac nid yw’n cyfrif tuag at y radd Safon Uwch derfynol. Mae Ofqual, sef y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau, yn datblygu proses a fydd yn darparu gradd wedi'i chyfrifo i bob myfyriwr, sy'n adlewyrchu eu perfformiad mor deg â phosibl. Mae’n gweithio gyda’r byrddau arholi gyda'r nod o sicrhau cysondeb i'r holl fyfyrwyr. Bydd byrddau arholi’n gofyn i athrawon gyflwyno eu barn am y radd y maent yn credu y byddai'r myfyriwr wedi'i chael pe bai’r arholiadau wedi cael eu cynnal. Bydd disgyblion sy’n teimlo nad yw eu gradd wedi’i chyfrifo yn adlewyrchu eu gallu yn cael cyfle i sefyll arholiad cyn gynted ag sy'n rhesymol bosibl ar ôl i ysgolion a cholegau ailagor. Cynhaliodd Ofqual ymgynghoriad ar y trefniadau eithriadol ar gyfer graddau arholiadau ac asesu yn 2020 rhwng 15 a 29 Ebrill 2020.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd pob myfyriwr UG yn cael gradd UG ac ni fydd unrhyw arholiadau UG tan haf 2021. Bydd y radd a ddyfernir yn seiliedig ar berfformiad blaenorol y myfyriwr wedi’i gyfuno â graddau a aseswyd gan y ganolfan a threfn rancio’r ganolfan. Yn yr un modd â Chymru, ni fydd natur y radd UG a ddyfarnwyd yn 2020 yn caniatáu iddi gyfrannu at y canlyniadau Safon Uwch yn 2021. Yn haf 2021, bydd gan y myfyrwyr ddau ddewis ar gyfer eu dyfarniad Safon Uwch. Os bydd myfyriwr yn dewis sefyll yr unedau U2 gofynnol yn unig, bydd ei ganlyniadau UG yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio rhagfynegiadau ystadegol yn seiliedig ar ei berfformiad yn yr unedau U2. Os byddant yn dewis sefyll unrhyw unedau UG, ochr yn ochr â’r unedau U2, byddant yn cael y radd orau yn eu Safon Uwch o'r naill lwybr neu'r llall.

 

Yn yr Alban, mae’r awdurdod cymwysterau'n rhoi model ardystio ar waith gan ddefnyddio gwaith cwrs, asesiad athrawon o raddau amcangyfrifedig a chyrhaeddiad blaenorol. Bydd system apelio ar gael hefyd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylai’r darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.